English



Croeso i'r Adran Griced

Mae chwaraeon wedi bod yn boblogaidd yn y dref ers bron i ganrif a hanner. Criced oedd y gêm gyntaf i gael ei chwarae yn 1870, gyda phêl droed yn dilyn yn weddol fuan wedyn yn 1879. Ar ôl bod yn chwarae criced mewn amryw leoliad o gwmpas y Dref yn y blynyddoedd cynnar gwelwyd datblygu'r 'Rec' ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn cynnig cartref parhaol i'r gêm. Pery hyn hyd y 1970au pan ymunodd Adrannau Rygbi a Chriced gyda'i gilydd i ddatblygu Parc Bodegroes ar gyrion Efailnewydd. Mewn lleoliad godidog mae Clwb Chwaraeon Pwllheli'n mynd o nerth i nerth ac yn cynnig amodau chwarae gyda'r gorau drwy Wynedd a thu hwnt.

Ffynhonnell y rhan helaeth o'r wybodaeth hanesyddol gynnar yw papurau newydd lleol y cyfnod a’r llyfrau sgorio. Yr unig lyfr sgorio sydd ar goll yw’r un am y flwyddyn 1980. Mae yna fanylion gweddol gyflawn ar gael felly ynghyd a lluniau o lawer o'r gemau criced o 2006 ymlaen.

Byddwn yn falch iawn o dderbyn unrhyw hen luniau, hanesion, adroddiadau a.y.b. Gallwch gysylltu wrth fynd i'r linc 'Cyswllt' ar ben y dudalen hon. Mae croeso hefyd i chi gyfrannu drwy adael sylwadau yn y llyfr gwesteion. Mae'r linc yma hefyd i'w gweld o dan y pennawd 'Sylwadau' ar frig y dudalen.

Cynnwys Newydd

Canlyniadau a Gemau Nesaf


  • Ebrill 23ain Wyddgrug I 204-9dec Pwllheli I 178-10
  • Ebrill 23ain Pwllheli II 224-4 Aliwminiwm Môn II 158-10
  • Ebrill 30ain Pwllheli I 154-10 v Dinbych I 218-9dec
  • Ebrill 30ain Shotton II 75-10 v Pwllheli II 77-8
  • Mai 7fed Hawarden Park I 89-3 v Pwllheli I 87-10
  • Mai 7fed Pwllheli II 116-6 v Llangollen II 117-8
  • Mai 14eg Porthaethwy I 242-2dec v Pwllheli I 121-10
  • Mai 14eg Pwllheli II 88-9 v Bwcle II 94-1
  • Mai 21ain Pwllheli I C v Llanelwy I C
  • Mai 21ain Rhuthun II 103-10 v Pwllheli II 104-6
  • Mai 28ain Mochdre I 177-10 v Pwllheli I 175-10
  • Mai 28ain Pwllheli II 72-10 v Llaneurgain III 152-7
  • Mehefin 4ydd Pwllheli I 192-8dec v Pontblyddyn I 196-5
  • Mehefin 4ydd Bodedern II 80-10 v Pwllheli II 81-5
  • Mehefin 11eg Bangor I 262-3dec v Pwllheli I 86-10
  • Mehefin 11eg Pwllheli II 226-8 v Corus Maeshafn I 206-10
  • Mehefin 18fed Pwllheli I 201-6 dec v Llandudno I 202-3
  • Mehefin 18fed Y Waun II 101-10 v Pwllheli II 105-2
  • Mehefin 25ain Cei Connah 279-6 dec v Pwllheli I 223-4
  • Mehefin 25ain Pwllheli II 255-1 v Gwersyllt II 72-10
  • Gorffennaf 2ail Pwllheli I 142-10 v Brymbo I 143-1
  • Gorffennaf 3ydd Mochdre III 152-9 v Pwllheli II 153-4
  • Gorffennaf 9fed Pwllheli I 153-2 v Wyddgrug I 149-10
  • Gorffennaf 9fed Aliwminiwm Môn II 127-10 v Pwllheli II 129-2
  • Gorffennaf 16eg Dinbych I 227-10 v Pwllheli I 281-6dec
  • Gorffennaf 17eg Porthaethwy III C v Pwllheli II C
  • Gorffennaf 23ain Pwllheli I 206-1 v Parc Penarlag 205-7dec
  • Gorffennaf 30ain Pwllheli I 136-10 v Porthaethwy I 137-8
  • Awst 6ed Llanelwy I 205-7 v Pwllheli I 107-10
  • Awst 6ed Pwllheli II 106-2 v Rhewl II 105-10
  • Awst 13eg Pwllheli I 153-10 v Mochdre I 154-2
  • Awst 14eg Llaneurgain III 80-10 v Pwllheli II 84-2
  • Awst 20fed Pontblyddyn I 73-1 v Pwllheli I 69-10
  • Awst 20fed Pwllheli II v Helygain II Helygain wedi ildio
  • Awst 27ain Pwllheli I 139-7 v Bangor I 139-10
  • Awst 27ain Castell Alun II v Pwllheli II Canslo
  • Awst 29ain Llandudno I v Pwllheli I Canslo Cynghrair
  • Awst 29ain Pwllheli II 271-6 v Corwen II 89-10
  • Medi 3ydd Corus I 147-5 v Pwllheli II 148-3
  • Medi 4ydd Pwllheli I 154-10 v Cei Connah I 158-3
  • Medi 10fed Brymbo I v Pwllheli I
  • Medi 11eg Pwllheli II v Bodoedern II
  • Medi 18fed Newick v Pwllheli

Lluniau Diweddar


cei connah 04.09.11
Cei Connah 04.09.11
corwen 29.08.11
Corwen 29.08.11
bangor 27.08.11
Bangor 27.08.11
leics 19.08.11
Leics 19.08.11
leics 17.08.11
Leics 17.08.11