22-10
Wedi codi bore’r death cnoc ar y drws, Milgi eisiau benthyg y gliniadur i fwcio ni i mewn, yn y maes awyr, ar lein. Gadawodd Rhian a mi Milgi gyda’r injan, ac aeth y ddau ohonom i lawr i’r caffi lleol i gael brecwast. ‘Roedd Rhian eisiau sôs HP, ond toedd na ddim i’w gael, felly aeth rheolwr y lle, chwarae teg iddo fo, allan i siop i’w brynu. Pobl felly ‘da ni ‘di dod ar draws ym mhob man, mor arbennig o ffeind. ‘Roedd na hogyn o Gaerdydd yn y caffi ar yr un pryd yn dweud ei hanes. Wedi cael ei hun yn sownd yn Johnsonville, wedi methu’r trên olaf. Gwelodd gwpl lleol yn y stesion a dyma’r hogyn yn dweud wrtho ei fod yn aros yn nhŷ ei gariad y noson honno a rhoi goriad ei dŷ iddo. Tŷ crand iawn ar ochr y bryn gyda golygfa fendigedig o’r bae.
Wrth i ni gerdded yn ôl daeth Milgi i’n cyfarfod, a dweud y newydd drwg. Pan aeth ar lein nid oedd lle ar yr awyren i Guto, Rhian a mi. Trafferth mewn Terminal 2? Erbyn i ni gyrraedd yn ôl i’r gwesty ‘roedd Guto wedi ffonio Huw ac yntau wedi ffonio June Pwllheli Travel. Aeth June yn syth i’r siop i chwilio am y cyfeirnod a ffoniodd Guto efo’r rhif. “Zulu” medda June, Guto yn ysgrifennu Z, Seven - 7, Oscar - O, Sierra. “be ‘di hynna C” medda Guto. Pawb yn chwerthin a’r tensiwn wedi ei spydu. Datrysodd y cyfeirnod y broblem ac aethom am y ddinas.
Milgi wedi trefnu cyfarfod Sera Llywelyn y tu allan i amgueddfa Te Papa. Mynd ar fws, yn Johnsonville a gofyn, “Does this bus go quite close to Te Papa”. Y gyrrwr, Maori mawr sgwâr ‘sa ti ddim yn dadlau hefo fo o gwbwl, yn ateb, “Quite close”. Stopiodd y bws yn ganol Wellington, tua 500 lath o Te Papa a dywedodd fod y bws wedi cyrraedd pen ei daith. Pawb yn codi i adael, y gyrrwr yn dweud wrthym eistedd, boi mawr - gwneud, ag yntau’n gyrru 'mlaen a'n gollwng tu allan i ddrws ffrynt yr amgueddfa. Pobl felly ydy nhw.
‘Roedd Sera wedi mynd i weld sioe Maori y tu mewn ac aethom i mewn i ymuno a hi. ‘Roedd hi’n hynod o falch o’n gweld. ‘Roedd y sioe Maori yn werth i’w weld hefyd, llawer gwell na hwnnw yn yr ‘offisial resepsion’. Aethom o Te Papa i’r Fan Zone. Chwythu’n galed a bwrw cawodydd trwm erbyn hyn, felly aethom am beint i’r Shed a chael rhywbeth i fwyta. Y dacteg wedi hynny oedd mynd yn nes at y cae, gadael y rhan fwyaf o’r genod, y rhai heb dicedi, mewn tafarn, mewn lle clyfar, o flaen y set deledu a mynd am y gêm. Mi ffeindion yr union le a gadawsom y genod yno wedi gosod ei dreigiau yn ddel o’i hamgylch.
‘Roedd awyrgylch dda iawn yn y cae. ‘Roedd y saith ohonom yn eistedd mewn rhes, yr un gefn, tu ôl i gôl; gôl Shane, o dan y ‘prawn sandwich brigade’. ‘Roedd y Crugerans a’r Morfa Mawr's yn eistedd yn agos iawn atom. Rhian Parry yn iawn yn fanna. Mwy o Wyddelod yn y cae nac o Gymru ond gwnaethom ein gorau i gael ein clywed ac ‘roedd y fflagiau yn eu lle ar ochr y cae. Digwyddodd rhywbeth prin iawn mewn gêm rygbi, ffeit yn y dorf. Gwyddelod yn cwffio ymysg ei gilydd a bu’r stiwardiaid dim chwinciad yn eu taflu allan. Eu cosb - $5000 o ddirwy neu tri mîs yn y carchar. Sylw ni gyd wedi ei dynnu at y kerfuffle, sgoriodd Jonathan Davies ac aeth sylw pawb yn ôl at y gêm.
Wedi’r fuddugoliaeth aeth tîm Cymru o gwmpas y maes i ddiolch i’r dorf. Daeth Toby Falatau at yr ochr i dynnu llun a llofnodi, yr union le, lle ‘roedd Milgi, Parry a mi yn chwilio am fflag Pwllheli. Gwyddelod wedi ei daflu ar lawr i roi banner ei hunain yn ei le. ‘Roedd y Gwyddelod yn iawn, er eu colled, ac yn dymuno’n dda i ni gweddill y gystadleuaeth.
Trefnon gyfarfod y Crugerans a’r Morfa Mawr's yn y dafarn lle gadawsom y genod. ‘Roedd y genod wedi cael ei hel o’r dafarn, rhywun wedi bwcio’r bwrdd i fwyta, ac wedi newid tafarn, felly welon ni ddim Richard, Rhian, Dafydd na Charen wedyn.
Aethom i’r Shed i wylio Ffrainc yn curo Lloegr a mawr oedd y dathlu gan bobl o bob gwlad, heblaw am Loegr wrth gwrs. Cyrraedd adref tua 12.30.
Bore ‘ma buodd pawb yn ffarwelio, Eifion a Mollie, Martin a Delyth a Tony yn aros yn Seland Newydd ond mynd ei gwahanol ffyrdd. Dennis a Sera wedi mynd i Hong Kong ers 6.00am. Elfed am fynd i Japan. Y gweddill ohonom efo Andrew i’r maes awyr. Cyrraedd fanno a dyma rywun yn dweud fod tîm Cymru yn y ‘Kuro Lounge’. Aeth rhai ohonom yno i chwilio amdanynt ond ‘roeddent wedi mynd. Pobl y lle, yn siarad rygbi efo ni, dangos eu lluniau, efo Capten Sam ac ati, ac yn ein gadael i mewn i’r lolfa fusnes, heb lol, ac yno y buom yn cael bwyd a diod am ddim.
Felly dyna’r diwedd i ni. Trip llwyddiannus iawn. Diolch yn fawr iawn i bobl Seland Newydd am roi ffasiwn groeso i ni a hefyd, yn enwedig, i Capten Sam a’i farchogion dewr am chwarae rygbi mor dda ac ymddwyn mor urddasol gydag agosatrwydd at y cefnogwyr. Gobeithio y cânt y llwyddiant maent yn ei haeddu yn erbyn Ffrainc ac yn y rownd derfynol.
Wel 'na ni, taw pia hi rŵan.