Blynyddoedd Cynnar
Dyma'r llun cyntaf mae'n debyg i gael ei dynnu o dîm rygbi ym Mhwllheli. Tîm Ysgol Ramadeg Pwllheli o'r tymor 1955-56. Mae'n siŵr mai hwn oedd yr ail dymor yn unig i'r gêm gael ei chwarae yn yr Ysgol. Yn sefyll ar y dde yn y cefn mae'r Athro Gwaith Coed, Mr J G Williams neu 'Jac Wood' i bawb gafodd ei addysg yn yr Ysgol, rhwng canol y 50au a dechrau'r 70au.
RHES GEFN : Leslie Faul : Huw Wyn Elias : Dewi W Thomas : Keith Geoffrey Lindsell : John Eric Williams
W Michael Williams : John P Grant : Hywel Rhys Davies : Mr J G Williams(Athro)
EISTEDD : Selwyn Parry : Robert Elfed Byrne : Melvin Ian Roberts : Dai Davies : Tegid Davies : John B Hughes : Eric Thompson
Roedd Mr Williams wedi dechrau dysgu yn yr Ysgol ddwy neu dair blynedd ynghynt ac wedi mopio efo'r gêm. Buan iawn y gwnaeth ei frwdfrydedd rwbio i ffwrdd ar rai o'r disgyblion a gweld sefydlu'r gêm yn y Dref am y tro cyntaf.
Diolch yn fawr iawn i Mr Dewi Thomas o Ruddlan, am gael benthyg y llun o dîm rygbi Ysgol Ramadeg Pwllheli o'r flwyddyn 1955-56 ac am ei atgofion a welir isod.
Atgofion Dewi Thomas o'r blynyddoedd cynnar
Ychydig iawn o brofiad na gwybodaeth am y gêm rygbi oedd ganddom ni yn yr Ysgol Ramadeg, rhywbeth a ddigwyddai yn ardal y pyllau glo yn y De oedd y gêm yma, ond wedi dyfodiad Jac Williams fel athro gwaith metel a gwaith coed fe newidiodd pethau ac fe sylfaenwyd tîm yr ysgol. (Yr oedd Jac yn adnabyddus fel unigolyn a hefyd am fod yn frawd i'r Parch R.O.G.Williams yr hwn a oedd yn un o Driawd y Coleg pan yn fyfyriwr.)
Cyfyd amryw o anawsterau. Un broblem fawr oedd pryd a phle i ymarfer - yn ystod oriau'r ysgol ac yn enwedig amser cinio oedd yr unig ateb i hyn gan fod gwneud hyn ar ôl ysgol allan o'r cwestiwn oherwydd bod amryw o'r hogiau'n diflannu adref ar y bws ddiwedd y prynhawn. Yr ail oedd diffyg cae priodol. Yr oedd "cae top" sef y cae pêl-droed yn greigiog ac yn berygl ac roedd cae hoci'r genethod yr ochr arall i Ffordd Penrallt yn "gysegredig" a hefyd yn llai o faint na chae rygbi go iawn. Felly ymarfer rhan amlaf ar yr unig ddarn arall o dir a oedd ar gael a hwnnw ymhell o fod yn wastad - rhwng adeilad yr ysgol a'r ffordd i mewn i'r safle ar ben yr allt.
Jac fyddai'n cyfarwyddo rhan amlaf ond mi fyddai un arall yn cynorthwyo o bryd i'w gilydd sef Alwyn Griffith (Swift) yr athro Saesneg ac yr wyf yn eithaf sicr i Alf Newman, yr athro cerddoriaeth, ddyfarnu mewn gêm fwy nag unwaith.
Os oedd cael hyd i le addas i ymarfer yn anodd roedd cael cae i chwarae gemau cartref arno yn fwy o broblem byth. Yr ateb oedd defnyddio, gyda chaniatâd wrth reswm, gae yn perthyn i wersyll gwyliau Butlins. Yr oedd y cae gyferbyn a phrif fynedfa'r gwersyll ac yr ochr arall i'r ffordd fawr fel ac yr oedd yr adeg honno. Byddem yn ymgynnull yn yr ysgol i newid cyn y gêm a gwisgo'r crysau gyda chylchau melyn a gwyrdd wrth gwrs ac wedyn teithio ar fws i Benychain. Cofiaf unwaith gyrraedd y cae a gweld for rhyw gamddealltwriaeth wedi digwydd oherwydd roedd gêm bêl-droed unai yn barod i ddechrau neu wedi dechrau. Dyma Jac a oedd yn unigolyn amyneddgar, cwrtais a thawel fel rheol yn anelu am rywun edrychai'n gyfrifol i geisio canfod beth oedd yn mynd ymlaen gan ddweud mai gêm rygbi oedd bod ymlaen ac nid rhyw "PROSTITUTED GAME" fel pêl-droed. Dyna ddeud!! Ni chofiaf beth a ddilynodd.
Y gwrthwynebwyr rheolaidd fyddai Ysgolion Ramadeg Syr Hugh Owen, Caernarfon, Friars, Bangor a Dolgellau ond y gelyn mwyaf oedd H.M.S. Conway yn Sir Fôn - nid ar y Fenai lle'r oedd y llong o'r un enw wrth gwrs ond ym Mhlas Llanfair. Dyna'r lle, am y tro cyntaf erioed y gwelsom gawodydd yn yr ystafelloedd newid - cael gweld sut oedd yr hanner arall yn byw. Ta waeth bu i ni ennill yno hefyd, gan feddwl fod ganddom fantais fawr o siarad gyda'n gilydd yng Nghymraeg yn ystod y gêm a drysu'r Saeson.
Bws fyddai'n mynd a ni i bob man a chredaf i ni ddefnyddio rhai Ifan Jones Parry (Llithfaen) a Moto Coch (Clynnog a Trefor) ac unwaith, dw’n i ddim pam "dybl decar" yn eiddo i gwmni Crosville. Byddai paned a brechdan neu fara brith yn dilyn y gemau, gartref neu oddi cartref ac orennau’n cael eu dosbarthu ar hanner amser.
Chwaraewyd y gemau ym mhob tywydd wrth gwrs - yr oedd teithio i ffwrdd a pheidio â chwarae oherwydd gwynt a glaw ddim yn opsiwn. Cofiaf chwarae unwaith ar gae y Friars ym Mangor uwchben y Fenai gyda chenllysg fel marblis yn disgyn am hydoedd. Un aelod o dîm y Friars yn yr adeg honno oedd y diweddar Dewi Bebb, aeth ymlaen i gynrychioli Cymru lawer tro.
Yng Nghaernarfon y sgoriais unig gais fy ngyrfa - codi'r bel o gefn y sgrym a phlymio dros y llinell gais -teimlad anhygoel i aelod o'r ail reng.
Gadewais yr ysgol cyn bod yn un ar bymtheg i gychwyn ar fy ngyrfa yn y diwydiant cynhyrchu trydan felly ni chefais amser hir yn y tîm rygbi ond bu i mi fwynhau bob munud gyda chriw o hogiau da.
Yr wyf yn hynod falch o weld fod y gêm yn llwyddo ym Mhwllheli a bod cyfleusterau ardderchog ym Modegroes - pob llwyddiant i'r dyfodol.
Dewi Thomas 2007.