Hi Di Hamilton
Mae’r tywydd wedi troi heddiw. Wedi dyddiau o awyr ddigwmwl maen nhw wedi cyrraedd a dod ac ychydig o law efo nhw. Heb son am y tywydd cynt rhag temtio ffawd.
Wedi stopio mewn maes carafanau i weld Carys, rhyw hogan o Benrhyn. Roedd Cath wedi addo mynd i’w gweld i’w ffrind, (‘roedd Gwen yn nabod hi’n iawn digwydd bod) aethom i’r Skyline, cyn mynd ymlaen i Hamilton. Car cebl ydi’r Skyline yn mynd a chi yn uchel dros Rotorua. Wedi cyrraedd y top ‘roedd luge i fynd arno, cert fach pedair olwyn oedd yn mynd i lawr yr allt am tua chwarter milltir, ar dipyn o wib a thipyn o hwyl hefyd.
Aros mewn motel ger y maes awyr yn Hamilton, yr ystafelloedd wedi eu gosod mewn rhesi fel chalets Butlins ‘stalwm. Pawb yn cael hwyl yn hel atgofion am weithio i Syr Billy flynyddoedd maith yn ôl.
Aeth Andrew a ni i ganol Hamilton, rhyw 8 milltir, ar gyfer gêm Yr Alban a Lloegr. Ar y ffordd i dafarn y Quadrant fe welsom Gethin Jenkins, Rhys Priestland a Scott Williams. Aeth Guto, Cath, Rhian a mi i ryw Chinese am fwyd, not recommended, tipyn o gaffi tegell (lle da am ddŵr poeth). Ar y ffordd yn ôl, gyda’r stryd yn llawn o sŵn cyrn, cefnogwyr Tonga yn dathlu, daethom ar draws Richard a Rhian Crugeran a Dafydd a Caren Morfa Mawr. Wedi sgwrs cyrhaeddom yn ôl i’r Quadrant mewn pryd i ganu Flower of Scotland. Berta wedi cadw lle i ni, mae’n ffeind iawn efo ni.
Awyrgylch dda iawn yn y Quadrant, ‘roedd Ifan Groeslon yno a dywedodd bod Iolo Fôn, Gareth Prebble a Ffion Wyn yn dod i Hamilton yfory, edrych ymlaen. Yn y criw efo Ifan ‘roedd Tudur Annwyl, ac mae o’n annwyl hefyd.
Diwrnod y gêm y plan oedd mynd i Hamilton tua un yn pnawn. Dro o amgylch y maes awyr ac awe i’r ddinas. Stop cyntaf - Ticket Tec i brynu ticedi ar gyfer Wellington. Pawb yn poeni y byddai Fiji yn ein 'stido ac y byddwn yn gwylio nhw ac Iwerddon fath a’r tro diwethaf. Y Crugerans a’r Morfa Mawrs yno hefyd ar yr un perwyl. Rhian Crugeran yn siŵr y byddwn yn eistedd efo’n gilydd am ein bod wedi prynu’r ticedi'r un pryd, yr un lle gan yr un ddynes. Gawn ni weld.
I’r Quadrant wedyn i wylio'r Ariannin a Georgia. Tone yn mynd am dro ond dod yn ôl yn sydyn a dweud bod y tîm ar fin cychwyn. Aethom allan i’w gweld ac ‘roeddent i gyd yn edrych yn fodlon iawn ei byd, arwydd da. Mynd ymlaen i House, ar ôl y gêm, am aduniad YDN efo Ffion, Gareth ac Iolo Fôn.
Gareth yn gweithio tros yr haf yn Skyline, fath a ni yn gweithio ar chairlifts Butlins ‘stalwm. Iolo wedi bod yn dysgu yn Fiji ac yn dweud ei bod yn amhosibl dysgu rygbi iddynt, ddim eisiau gwybod am strwythur ond chwarae. Wedi clywed ei fod yn chwarae i Gaernarfon oeddan nhw dwi’n siŵr. Ffion yn dweud bod Fiji yn shit. Tra oedan yn siarad daeth rhyw foi ataf, wedi gweld y crys Pwllheli. Sion Gibson, o Nefyn, wedi chwarae yn nhîm dan 16 Pwllheli efo Huw Towyn a Selwyn Scott. Rhywun yn ei gofio?
Pryd o fwyd wedyn cyn dal bws shuttle i’r maes. Canu da, Calon Lân, pob pennill, Sosban Fach, pob pennill. Bws diwylliedig iawn. ‘Roedd ein seddi ni mewn stand prefab y tu ôl i’r gôl. Lle iawn ond cawsom drochfa. Awyrgylch dda ond ddim cystal â New Plymouth, y tywydd mae’n siŵr. Difyr oedd gweld pawb yn sgrialu am gysgod i gefn y standiau pan ddaeth y glaw mawr deg munud cyn diwedd y gêm.
Wnaethom ni ddim aros ar ôl y chwiban olaf y tro yma ac aethom i glwb rygbi Fraser Tech, drws nesaf i’r stadiwm, i gyfarfod Lucy Downham. Cawsom fag du gan un o’r aelodau i gadw carpiau cefnogi gwlyb. ‘Roedd hwyliau da iawn ar Lucy oedd wedi gyrru o Auckland i weld y gêm. ‘Roedd canwr hwyliog yn ein diddanu yno a gadawodd y meic yn agored i’r Cymru. Bu llawer i fyny yn canu’r ffefrynnau yn cynnwys un perfformiad gwreiddiol o Sloop John B oedd yn sôn am Gapten Sam yn ‘bring the cup home’.
Ar ôl y Fraser Tech cawsom un yn y Quadrant cyn mynd yn ôl i le oedd y bws yn ein codi. Ar y ffordd gwelodd Mary tri o hogai mawr. Rhedodd Milg atynt fel rhyw hogyn bach a dal Capten Sam a’i longyfarch ar y fuddugoliaeth a dweud wrtho ei fod wedi prynu ticed i’r quarter final cyn y gêm. “No pressure then” oedd ateb Sam. Yn ôl i’r bws i frolio a dangos y llun ond i glywed bod dreigiau Elfed wedi bod ar y cae yn y stadiwm i dynnu ei lluniau efo Sam. Un da ‘di Sam.
O gyda llaw mae Delyth wedi cael cyfweliad gan Rhian y superfan ar raglen Jonathan a dylai fod ymlaen nos Wener.