English


Hanes 1960-1969

Diolch i John Humphreys am gael menthyg y llun isod o dîm cyntaf Ysgol Ramadeg Pwllheli 1964-65.

ysgolramadeg6465

RHES GEFN : Wil Martin : David Jones : Gwyndaf Jones : John Humphreys : Eric Baum : Graham Wood : Gwyn Jones : Keith Lewis(Athro Chwaraeon)
CANOL : Len Humphreys : Ian Martin : W O Jones : Arfon Jones(capten) : Richard Jenkins : Emlyn Thomas : Richard Jones
LLAWR : Garnet Morris : David Thomas

Cafodd John Humphreys ei ddewis i chwarae i dîm Sir Gaernarfon yn erbyn Ysgolion Rhondda ar Chwefror 20fed 1965. Colli'r gêm o 20-0 wnaeth y tîm. Gyda 14 o'r tîm yn ddisgyblion unai yn Ysgolion Friars neu John Brights, John oedd yr unig fachgen lleol i chwarae y diwrnod hwnnw.

Dyma lun arall o dîm rygbi hŷn Ysgol Ramadeg Pwllheli yn dyddio o fis Tachwedd 1965, yn dilyn buddugoliaeth o 23-0 yn erbyn Ysgol Gyfun Caergybi. Trueni na fyddai'r safon rywfaint yn well, ond er hynny rwy'n siwr y gall rhai ohonoch chi selogion y gêm adnabod amryw o'r chwaraewyr. Fe ddaeth rhai ohonynt yn nes ymlaen i chwarae i Glwb Rygbi Pwllheli, a gadael eu marc hefyd. Rhag ofn nad ydych wedi adnabod pawb mae enwau i'w gweld o tan y llun.

ysgolramadegpwllheli6566

RHES GEFN : Meirion Hughes : William Martin : Richard Pierce
SEFYLL : Mr Keith Lewis (Athro Chwaraeon) : Dafydd Edwards : Gwynfor Hughes : John Humphreys : Eric Baum : Edward Harries : Gwyn Jones.
EISTEDD : Richard Jones : Rhys Nicholson Jones : Ian Martin : David Wyn Jones (capt) : Terry Owen (prif fachgen) : Paul Alderton : D J Thomas
LLAWR : Dewi Gough Jones : Emyr Hughes

Chwaraewyd yn erbyn HMS Conway, Caernarfon, Harlech a Machynlleth ymysg eraill yn ystod canol y chwedegau. Amryw fuddugoliaeth nodedig ymysg colledion oedd weithiau yn rhai trwm. Beth bynnag fo’r canlyniad roedd rhaid sgwennu adroddiad ar y gêm ar gyfer y Caernarfon and Denbigh. R M H oedd ‘sports correspondent’ neu gyw riportar Ysgol Ramadeg Pwllheli. Mr R Meirion Hughes, mab Y Parchedig a Mrs R Gwilym Hughes, 21 Ffordd Caerdydd.

Meirion ei hun oedd gwrthrych y newyddion yn rhifyn 24ain Rhagfyr 1965 o’r C+D Herald, pan dorrodd asgwrn pont yr ysgwydd yn chwarae yn erbyn Harlech. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Bryn Beryl am x-ray a methodd chwe wythnos o’r tymor.

Chwarae ar y Rec ar fore Sadwrn oedd yr arferiad bryd hynny, ac mae un gêm chwaraewyd wythnos cyn Nadolig 1965 wedi dal sylw. Harlech oedd y gwrthwynebwyr mewn tywydd ofnadwy a gyda’r bêl yn ymddwyn fel bâr o sebon, yn ei gwneud yn amhosib chwarae rygbi cyflym. Pwllheli aeth ar y blaen yn erbyn 14 Harlech pan sgoriodd Terry Owen gais, a chyn hanner amser ychwanegodd John Humphreys gais arall. Seliwyd y fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm gyda thrydedd cais Pwllheli.

Ar ôl cyrraedd ystafelloedd newid Clwb Peldroed Pwllheli a’r Cylch darganfuwyd nad oedd y sustem dŵr poeth yn gweithio a methwyd a chael cawod. Dyna pryd y rhedodd pump o hogia dewr Pwllheli ar hyd y prom yn eu togs a neidio i’r môr. Mae enwau’r pump wedi cael ei sgwennu mewn biro ar waelod yr adroddiad; Terry, Jonesy, Dic Goch, Rhys a Dafydd Edwards.

Ar ddechrau Chwefror 1966 sgoriodd Ysgol Ramadeg Pwllheli eu trydedd fuddugoliaeth o’r bron yn erbyn Coleg Llandrillo. Canolwr Pwllheli, Wil Martin agorodd y sgorio yn fuan yn y gêm gan wthio’i hun rownd yr ochr dywyll i’r gornel, ac wedyn ychwanegu at ei sgôr wrth wneud union yr un peth ar ochr arall y cae. Roedd y sgôr yn sefyll ar 11-0 ar hanner amser ar ôl cais arall gan David Thomas a throsiad Gwynfor Hughes. Cwblhawyd sgorio Pwllheli yn yr ail hanner gyda dau gais drwy’r bachwr Emyr Huws a’r clo John Humphreys.

Daeth tymor 1966 i ben gyda gêmau yn erbyn y cyn disgyblion ag Ysgol Uwchradd Uxbridge o Middlesex, gyda’r tîm yn llwyddo i ennill 10 o’r 21 gêm chwaraewyd. Dyma restr o’r chwaraewyr am y tymor :

David Jones (capten)  David Edwards 
Rhys Jones  Ellis Jones 
Emyr Hughes  John Humphreys 
David Thomas  Dewi Jones 
Richard Jones  Richard Pierce 
Eric Baum  Paul Alderton 
Gwyn Jones  Ian Martin 
Terry Owen  Michael Griffith 
Gwynfor Hughes  Frank Morton 
Meirion Hughes  Tom Parry 
Edward Harries  William Martin 
David Williams   

Diolch eto i John Humphreys am y llun isod. Dyma i chi'r tîm oedd yn fuddugol o 15-5 yn erbyn Llangefni ar Fawrth 30ain 1968.

ysgolramadegpwllheli6768

RHES GEFN : Emlyn Williams : Frank Morton : Richard Ll Jones : Gwyn Jones : John Humphreys : Martin Jones : Tom Parry : Arnold Paul Jones
EISTEDD : David Roberts : Barry Kelly : Wil Martin : Eric Baum : Michael N Jones : Michael Griffiths : David Edwards

Chwaraeodd y tîm 13 o gemau yn ystod y tymor gan ennill dim llai nag 11 o'r rhain.

Dewiswyd John Humphreys i chwarae dros Ysgolion Uwchradd Gogledd Cymru yn erbyn Ysgolion Sir Fynwy 'bnawn Sadwrn Tachwedd 4ydd 1967. Cafodd Eric Baum hefyd ei ddewis i chwarae yn yr un tîm y diwrnod hwnnw. Mae'n rhaid i John fod wedi creu gryn argraff gan iddo gael ei ddewis i chwarae i dîm Mynwy, Gogledd a Chanolbarth Cymru dair wythnos yn ddiweddarach, yn Stadiwm Cwmbran yn erbyn Dwyrain Morgannwg. Dim ond tri bachgen o'r gogledd oedd yn y tîm, John, V Morris o Llandudno a D Cunnah o Ddinbych.

Ysgol Glan y Môr 1968-69

ysgolglanymor6768

Cefn : Tom Parry : Arnold Paul Jones : Ronald Japheth : Richard Ll Jones : Michael(Highways)Jones : Martin Jones : Wil Martin : Gwyn Jones : Frank Morton
Blaen : Emlyn Williams : David Edwards : Mike Griffiths : David Roberts : Dewi Gough Jones : Barry Kelly

Diolch i Mair Jones a Milgi am gael menthyg y llun uchod.

Ysgol Glan y Môr 1969-70

ysgolglanymor6970

CEFN : Lance King : Llew Sol Owen
SEFYLL : Hubert Hughes : David Ellis : H G Roberts : David Burnham : Edward John Jones : Dewi G Jones : Eric Robetrs
EISTEDD : Jack Williams : Idris Griffiths : Martin Jones(Is.G) : Michael Griffiths(Capten) : Frank Morton : Ieuan Williams : William Martin
BLAEN : John Hughes : Gareth Owen

Diolch i David Burnham a Milgi am gael menthyg y llun uchod.