English


Hanes Tymor 1971-72

Datblygwyd y syniad o ffurfio Clwb Rygbi Pwllheli gan y diweddar Len Humphreys yn dilyn gêm rhwng cyn disgyblion Ysgol Ramadeg Pwllheli a Chlwb Rygbi Harlech yn ôl yn 1971, ac roedd amryw o’r hogia ifanc yma’n awyddus i chwarae rygbi yn rheolaidd. Gêm weddol newydd yn y Gogledd, oedd rygbi ar y pryd, ar raddfa clybiau lleol beth bynnag.

Parhai poblogrwydd y gêm yn Ysgol Glan y Mor wrth i'r tîm chwarae'n rheolaidd yn erbyn Ysgolion eraill a gwelir isod lun y tim o dymor 1971-72. Yn eu mysg mae Gwyn Lloyd Williams, chwaraeodd fel cefnwr i'r Clwb am sawl tymor a Bryn Martin sydd wedi bod yn ymwneud a'r Clwb ers y dyddiau cynnar.

Diolch i David Burnham a Milgi am gael menthyg y llun isod.

ysgolglanymor7172

SEFYLL : Jack Williams : Deiniol Evans : Stephen Davies : Gwilym Prys Jones : Gwyn Lloyd Williams : William Graham Cooper
Hywel Rowlands : David Ellis : Bryn Martin : Hubert Hughes
EISTEDD : William David Owen : David Alan Jones : Caradog Wyn Jones(Ysg) : David Burnham(Capten)
Jonathan Williams(Is.G) : Edward John Jones : Robin Lloyd Evans : William D Hughes

Isod gwelir llun o dîm Cyn-ddisgyblion Pwllheli chwaraeodd yn erbyn Ysgol Glan y Môr mae'n debyg yn y flwyddyn 1972. Dyma'r tîm chwaraeodd gêm answyddogol yn erbyn Harlech cyn ffurfio Clwb Rygbi Pwllheli. Os oes gan rywun fwy o wybodaeth am y gem neu'r chwaraewyr cysylltwch er mwyn i ni gael cwblhau'r wybodaeth.

cyn ddisgyblion pwllheli v glan y mor

CEFN : Paul Alderton : Wil Martin : Glyn Moss Jones : Martin Jones : Idris Griffiths : Mike Griffiths
Dewi Gough Jones : Tom Roberts : R Huw Un
BLAEN : David Roberts : David Edwards : Emyr Glyn Williams : Geraint Williams : Gareth Owen : Ken Davies

David Roberts, Mike Griffiths a Gareth Owen Alwyn Pritchard a Gwyn Penlan Y Dacl!! Martin Jones yn neidio yn y lein
Caradog Wyn Jones, Robin Lloyd Evans a David Burnham Gareth Owen a Gerry Williams Martin Wyn Jones a Mike Griffiths RHENG FLAEN Y TIM CYNTAF - John 'Pent' Hughes, Idris Griffiths a Martin Wyn Jones

Cliciwch ar y lluniau bach uchod i'w gweld yn eu llawn maint.
Lluniau lliw ydi'r gêm rhwng Cyn Ddisgyblion ag Ysgol Glan Y Môr.

Er mwyn symud pethau ymlaen cynhaliwyd cyfarfod yng Ngwesty’r Tŵr o gwmpas Nadolig 1971 i drafod y syniad o ffurfio Clwb newydd. Cafwyd ymateb ffafriol a threfnwyd gêm saith bob ochr yn ystod gwyliau’r Pasg 1972.

Y Ddau Jack...Jack Basset a Jack Wood

Ym Mis Mawrth 2003 ysgrifennais erthygl yn Llanw Llyn wedi ei hysgogi gan gwestiwn a gawn yn aml ar y pryd, sef os oeddwn yn dal i chwarae rygbi, ac os felly pam? Wel mae’r dyddiau chwarae drosodd bellach, ond mae’r cwestiwn sylfaenol o pam mod i wedi chwarae o gwbl yn dal yn dod a’r un ateb i ni, a bod y bai neu’r clod yn sylfaenol ar ysgwyddau dau Jack … Jack Basset a Jack Wood … gadewch i mi esbonio.

Y tro cyntaf i mi gyffwrdd a phêl rygbi erioed oedd yn 1971 yn Ysgol Botwnnog. Pêl Droed oedd popeth ar y pryd ond yn dilyn llwyddiant Y Llewod yn Seland Newydd, dywedodd yr athro Chwaraeon Mr Bob Richards un bore Mawrth “ Three cheers boys, The Lions have won again”… hwre medda ninnau, heb fod yn gwybod yn iawn pwy oedd y Lions!

Wrth edrych yn ôl, credaf fod rygbi mor ddiarth iddo ef ag yr oedd i ninnau, gan iddo’n rhannu yn ddau dîm, sef "Shirts" yn erbyn "Skins", ac yna methu’n lân â deall pam fod y tîm a wisgai’r crysau, a ddigwyddai gynnwys y pêl-droedwyr gorau, yn cael cweir gan y trueiniaid a wisgai ddim ond siorts.

Fe’m rhoddwyd i yng nghanol y rheng flaen, rhwng Cledwyn Barrach Bach a Meirion Bron Rhug os ‘dw i’n cofio’n iawn, pan ddaeth y sgrym gyntaf. Dywedodd Mr Richards wrthyf mai "hwcar" oedd y safle hwn. Er mwyn esbonio’r gêm yn llawnach i bêl-droedwyr bach Pen Llŷn, cymerodd y bêl gan ddweud: "Now ai’m ddy sgrym haff, and iw (gan roi pwniad i mi) haf tw cic ddy bôl bac wen ai pwt it in hiâr". Fel bachgen da a wrandawai ar yr athro bob amser, gwnes yn union felly, gan roi cic i’r bêl yn ôl allan trwy’r twnnel i Mr Richards! Doedd o ddim yn hapus a bu cerydd a bonclust, a’m symud i fod yn brop!

Er gwaetha’r dechreuad yma, cafodd y gêm afael arnaf, ar don llwyddiant tîm rhyngwladol Cymru yn y saithdegau, llais y sylwebydd Bill McLaren ar y teledu yn esbonio ac egluro, a dyfodiad athro a pherson arbennig iawn i’r ysgol, sef y diweddar Mr Len Humphreys. Er mai athro Celf oedd Mr Humphreys, dechreuodd ein dysgu i chwarae rygbi fel y caniatâi’r tabl amser, ac erbyn 1974 roedd wedi’n trwytho yn y gêm i’r fath raddau fel ein bod yn ddigon da i ennill twrnament saith bob ochr Gwynedd yn Harlech. (Y tîm, gyda llaw, oedd Cledwyn "McCloud", Wyn Bach, Fi, Wyn Chink, Dei Meics, Blew Bach ac Erfyl. Do’n i mo’r gorau yn y tîm yma o bell ffordd, ond bûm i’n ddigon lwcus i gael cyfle i chwarae ar ôl yr ysgol.)

Un o Lanbedrog oedd Mr Humphreys ac aeth i "Ysgol Dre" yn hytrach nag Ysgol Hogia’ Llŷn, ac yno y magwyd ei ddiddordeb mewn rygbi. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Rygbi Pwllheli yn 1972, a daw hyn ag ateb arall i’r cwestiwn pam fyd mod i wedi chwarae rygbi: am fod ‘na glwb ym Mhwllheli siŵr iawn!

Medrais ddarbwyllo (do’dd hi ddim yn anodd!) Vaughan Tryfan (tad Arwel, cyn fewnwr y clwb a Dylan Llŷr, y maswr presennol) y byddai’n syniad iddo "dreinio" i’r clwb ym Mhwllheli, ac y dylai fynd â fi efo fo, a dyna ddechrau.

Roedd y ddau dymor cyntaf yn fwynhad p’run ta ennill neu golli, gydag ochr gymdeithasol y gêm yn flaenllaw iawn. Yna yn y trydydd tymor roedd yr ail dîm yn dechrau bod yn llwyddiannus, byth yn colli bron, dan gapteiniaeth bragmatig a phenderfynol cadeirydd presennol y clwb, Wil Martin. Lliwiodd y dynesiad yma tuag at y gêm fy agwedd innau hefyd. Mae angen mwynhau, ond fedra i ddim mwynhau heb ennill, ac mae ambell i ffordd i sicrhau hynny!

Chwarae a mwynhau am flynyddoedd wedyn, gan ddod i mewn i’r tîm cyntaf dan gapteiniaeth Tom Roberts yn nechrau’r 80au. Bu gorfod ystyried symud clwb yn 1985, wrth feddwl am briodi a symud i fyw i Ddyffryn Ardudwy. Wnes i ddim chwaith bryd hynny (symud clwb, hynny yw!) Rai misoedd cyn i mi briodi, roedd Ian Studt, a oedd i fod yn gapten y clwb y tymor canlynol, a minnau mewn tafarn yng Nghaerdydd. Yr oedd o’n ddigon gwirion, â’i fraich dros fy ysgwydd, i ofyn i mi aros ym Mhwllheli, a minnau’n ddigon gwirion i gytuno, gan ddweud na allwn chwarae i neb arall. Rhaid nodi bod y ddau ohonom yn flinedig ac emosiynol y noson honno, yn dilyn gêm ryngwladol.

Bu cynnig arall ar chwarae i Harlech yn y misoedd cyn geni Eon, y mab hynaf, ym 1992. Doeddwn i ddim digon da iddynt mae’n debyg, a phan ofynnodd Ian Studt (eto!) faswn i’n dod yn ôl i Bwllheli, cymerais rai eiliadau i feddwl am y peth cyn gwneud fy mhenderfyniad. Mae Eon bellach yn chwarae i dîm ieuenctid y clwb, gyda meibion cyn gyd-chwaraewyr gyda Phwllheli, a meibion i rai o’r hogia oedd yn y gêm gyntaf un honno dan diwtoriaeth Mr Richards yn Ysgol Botwnnog- clwb fela ydi Dre! Teimlad surreal iawn un pnawn Sadwrn diweddar oedd sefyll ar ochr y maes a Swipe wrth fy ochr, gyda lein-owt yn union o’n blaen. Yn sefyll yn rhif un yn y lein roedd Eon, ac yn fewnwr roedd Nick Butterworth, mab Swipe....Nick yn deud y "call" trwy ei gumshield ac Eon ddim yn deall be ddeudodd o a gweiddi "Eto"....sawl tro y bu’r ddau dad trwy’r un sgwrs yn yr un lle a sefyllfa??.....

Yn ôl i’r stori....Cafwyd blynyddoedd o ddatblygiad a llwyddiant yn y clwb wedyn dan gadeiryddiaeth Wil Martin, capten yr ail dîm llwyddiannus a phragmatig hwnnw yn niwedd y 70au. Tymhorau o chwarae gwefreiddiol yn aml gyda Gary Williams a Ian Studt ar eu gorau. Ennill Cwpan a Chynghrair Gogledd Cymru dan gapteiniaeth (pragmatig a phenderfynol eto!) John Tudor, a mynd ymlaen i chwarae yng Nghynghrair Heiniken. Chwarae’r gêm gyntaf yn y gynghrair honno ym Merthyr, gyda chyn chwaraewyr rhyngwladol yn ein gwrthwynebu. Cael Brian Going o Seland Newydd yn hyfforddwr, a rhai o’i gydwladwyr yn gyd-chwaraewyr. Roedd Brian yn gallu ysbrydoli a chymell timau ac unigolion gydag ychydig eiriau dethol.

Bûm i’n lwcus iawn eto i allu parhau i chwarae yn llawer hirach nac y disgwyliwn, ac yna cynorthwyo gyda hyfforddi. Mae’r gêm yn dal yn bwysig iawn i mi, gydag Eon yn chwarae i’r clwb bellach, ac Erddyn wedi bod yn sgwad datblygu Gogledd Cymru dan 14 ac yn chwaraewr brwdfrydig hefyd. Golygodd eu ymlyniant hwy fy mod wedi cymryd cam yn ôl am gyfnod o’r clwb - mae’n anodd bod yn ddreifar tacsi iddyn nhw a hyfforddi!

Pam bod ‘na glwb ym Mhwllheli felly? Eto, mae ‘na ateb hawdd: sef fod bechgyn â diddordeb mewn rygbi wedi eu hysbrydoli gan lwyddiant tîm Cymru ar y pryd, ac eisiau chwarae’r gêm yn gystadleuol. Un o’r rhai blaenllaw, ac yn wir yr un a ystyrir i fod wedi cael y syniad gwreiddiol o ffurfio clwb, oedd Len Humphreys, yr athro brwdfrydig a sbardunodd ein diddordeb ni ym Motwnnog. Ac ‘roedd athro yn Ysgol Pwllheli hefyd, a ysbrydolodd Len a’i gyd sylfaenwyr ychydig ynghynt. Mae modd olrhain yr hyn a wnaeth ennyn brwdfrydedd yr athro hwn i gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr ymhell cyn llwyddiant Cymru a’r Llewod yn y saithdegau.

Chwaraewyd y gêm honno ar 17/1/31, yn Twickenham. Y sgôr oedd 11-11, gyda Lloegr yn cael cic gosb hwyr i ddod yn gyfartal. Doedd dim teledu'r adeg honno, wrth gwrs, ond yr oedd gemau’n cael eu darlledu ar y radio, ac yn sylwebu ar y gêm hon i’r BBC roedd y Capten H.B.T Wakelam (gyda llaw, y gŵr a ddarlledodd y sylwebaeth fyw gyntaf erioed o unrhyw faes chwarae ar 15/1/27, gêm rygbi eto rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham). Yn gwrando arno ymhell i ffwrdd yn Llanystumdwy roedd J G Williams, "Jack Wood" i hogia Ysgol Dre, a’r athro a gyflwynodd y gêm i gymaint o’r rhai a fu’n gyfrifol am fodolaeth Clwb Rygbi Pwllheli. Mae’n adrodd stori’r gwrando a’r wefr a gafodd yn ei gyfrol ardderchog "Pigau’r Sêr".

Mae’r ateb yn llawer mwy cymhleth rŵan, tydi? Dw i’n dweud o hyd mai gêm "gymdeithasol" ydi rygbi, ac wrth gwrs mae cymdeithas yn llawn o bobl. Tynnwch y digwyddiadau o’r stori yma, a phobl sydd ar ôl, a dyna felly yw un ateb - rhestr o enwau: J G Williams, Len Humphreys, Bill McLaren, Vaughan Tryfan, Wil Martin, Captain Wakelam, Ian Studt,; Tom Roberts, Gary Williams, John Tudor, Brian Going,............... Bob Richards hyn yn oed, a Jack Basset. Jack Basset? Ia, fo oedd capten Cymru yn y gêm honno a fu’n egin i Glwb Rygbi Pwllheli ar radio J G Williams yn 1931.

Arthur Wyn Williams