Napier a Masterton
Aeth Andrew a ni trwy’r mynyddoedd i Napier a bu yn ein diddanu gyda’i hanesion o deithio trwy’r eira a’r ddrycin, mewn dybl decar, dim llai, i gludo ei deithwyr yn saff i ben eu taith, ‘run fath a Calamity Jane ar y Deadwood Stage.
Tŷ ar Ala Uchaf fu Napier i mi tan heddiw. Hen dŷ John Fruits oedd o ac ‘roedd gwraig John yn dod o Napier. The Art Deco Capital maen nhw yn galw Napier, caffi Morannedd ar bob congl. Wedi cael ei ailgodi ar ôl daeargryn mawr iawn yn 1931.
Mae gwesty'r Masonic wedi ei adeiladu yn null Art Deco. Mae rhywun yn disgwyl gweld Poirot neu Miss Marple ar y corridor. Braidd yn hen ffasiwn oedd y gwesty a dim at ddant rhai o’r parti.
Aeth Andrew a ni i dŷ cynhyrchu gwîn Church Road a chawsom ein tywys o gwmpas y ffatri a thrio ychydig o’r cynnyrch ar y diwedd. ‘Roedd y gwin yn sychach na’r ddarlith ac felly dim ond Martin brynodd botel ar y ffordd ona.
I ddweud y gwir ‘roedd pawb braidd yn fflat yn Napier, wedi blino. Aethom am sgowt o gwmpas y lle ac ‘roedd yr adeiladau yn hynod a phawb yn eu gweld yn debyg i’r hen Palladium. Aeth pawb i’r Hog’s Breath am stecsan. Cymerodd Rhian ‘sgodyn yn a bu yn sâl trwy’r nos. Mae’n well o lawer heddiw.
Ar y ffordd i Maesterton heddiw ac mae’n ben-blwydd Tony. Stopio ar y ffordd ym mragdy Tui, am ‘guided tour’ a samples. Hogan ifanc yn mynd a ni ar y tour a milgi yn cymryd hi i’w ben ein bod ni’n Gymraeg uniaith a bod o’n gorfod cyfieithu. Nath o’m para’n hir.’Roedd yr hogan yn deall yn iawn. ‘Roedd wedi bod acw’n cneifio.
Peter Belcher newydd ffonio Berta yn cynnig ticedi $600 am $175. “O dear, what a pity, never mind” fath a sa Windsor Davies yn ei ddweud.
Wedi cyrraedd yr Highwayman yn Masterton ‘doedd gan neb fawr o amynedd fynd allan felly cawsom gyfarfod go hir yn ystafell Milgi a Mary. Te parti pen-blwydd i Tony. Mae’n siŵr bod yr Highwayman yn gwybod y bod hi’n ben-blwydd Tony, fe ffoniodd adref dwywaith a chodon nhw ddim ffadan arno.
Daeth Y Gwcw drosodd i Seland Newydd yn arbennig i ddathlu penblwydd Tone.
Mae’r croeso ‘da ni wedi gael yn Seland Newydd wedi bod yn anhygoel i ddweud y gwir. Pawb yn hynod o glen ac mi wna nhw rhywbeth i chi. ‘Ron i’n siarad efo rhyw foi o Lanberis yn Hamilton ac ‘roedd o wedi cael benthyg tŷ a char, Merc dim llai, gan bobl oedd o’n brin ei adnabod. Wrth son am Hamilton gwelais Cledwyn Ashford a Gethin ar y stryd. Heb weld Gethin ers deugain mlynedd ac roedd rhaid i Cled ein hailgyflwyno.
Er i holl falu cachu mae pawb wedi rhyw how gymryd at Andrew, y dreifar. Mae o wedi mynd a ni i weld pethau san i heb gael y cyfle i’w gweld pe bawn ar liwt ein hunan. Heddiw aeth a ni yn ôl am Napier i warchodfa natur Pukaha Mount Bruce i weld pob math o anifeiliaid prin.