Dyma ni eto. Pawb yn New Plymouth erbyn hyn.
Diolch eto i Tom Roberts.

New Plymouth


Siwrna o tua 6 awr oedd hi lawr i New Plymouth yn teithio trwy wlad gyda’r un gwyrddni a Chymru ond tirwedd hollol wahanol. Dim bryniau oedd yn rhedeg i’w gilydd ond lympiau o fryniau oedd yn codi o ddim, fath a pimples. Dim cloddiau cerrig na phridd ond ffensys weiran lefn a dim ffermdai cerrig chwaith ond tai o goed oedd heb weld brwsh paent ers tro byd.

Mi stopion am damaid mewn tref, gydag amgueddfa Colin Meads ynddi, a mynd i mewn i dŷ bwyta oedd yn debyg iawn i gaffi Fred West End, oedd ar y prom yn y 60au. Bwyd yno yn champion. Fe dynnodd Malcolm Pulrose gyhyr yn ei goes wrth ddod o’r bws ac mae’n hercian yn ddrwg byth.

ifan cyn ddisgybl

Cyrraedd New Plymouth tua phedwar ac wedi dadbacio mynd i dŷ potas i wylio'r Alban yn chwarae'r Ariannin ac yno oedd yr hogia o’r Groeslon. Daeth Ifan, cyn ddisgybl, i mewn a dweud fod Ffion wedi gadael iddo wybod fy mod i hyd y lle. ‘Roedd tipyn o Gymry o gwmpas ac ‘roedd pethau yn dechrau twymo ar gyfer y gêm.

mynydd taranaki

Ew, mi oedd diwrnod y gêm yn ddiwrnod braf o wanwyn, awyr las ond rhyw ias yn y gwynt. Aeth Rhian, Mary, Milgi a mi am dro hyd y prom cyn cael tamaid i fwyta. ‘Roedd hi’n ben llanw a’r môr yn curo’r creigiau. Cefais sgwrs efo rhyw ‘sgotwr. Dywedodd nad oedd hi ddim am fwrw ar gyfer y gêm ond ei bod wedi bwrw ar Mount Taranaki a bod ei gopa yn wyn. ‘Roedd llwybr arfordirol yn rhedeg am tua chwe milltir ac aeth Dennis a Sera, oedd wedi ymuno a ni, am dro tra aethom i nôl brecwast.

new plymouth a'i thoeau fflat

Toeau fflat oedd gan bob adeilad bron, llawer wedi’u gwneud o goed a’r rhan fwyaf efo balcony er mwyn mochal rhag y glaw. Mae New Plymouth yn ddinas fach lân a distaw wedi ei sefydlu gan amaethyddiaeth ac yn braf i gerdded o’i chwmpas. Cerddom i’r parc lle ‘roedd cae criced bach tlws gyda theras i bobl i wylio. ‘San rhoi hartan i bobl iechyd a diogelwch adre. Gwelsom y rhan fwyaf o’r criw yn y parc ac, ar ôl paned, hwylio'n ôl at ganol y ddinas. Aeth Milgi a mi i’r llyfrgell i yrru e-byst, a’r genod i’r gwesty. Aeth y gweddill i’r prom, wedi i ni sôn amdano, a dod ar draws hogia tîm Cymru yn ymlacio wedi bod am dro ar gefn beic. ‘Roedd yr hogiau yn glên iawn ond braidd yn ddistaw. Pa ryfedd efo criw o hen bobl yn gwirioni a ffysian o’u cwmpas. Gwelodd Elfed, Rhian Davies, o raglan Jonathan, yn gofyn i bobl be oedd y peth hawsaf iddynt wneud erioed.

guto a rhian

Aeth pawb am bryd o fwyd tua phedwar a gwneud ein hunan yn barod i fynd i’r gêm yn y bws am chwech. Aeth y bws a ni i’r cae. “Ew” medda rhywun, “mae’n mynd a ni yn agos iawn at y stand” a dyma’r bws yn stopio tu allan i’r ystafell newid. Wnaeth y stiwardiaid ddim sylwi eu camgymeriad tan i Guto ddod allan o’r bws efo clamp o ddraig wedi ei beintio ar ei dalcen. Yn ôl i’r bws a bagio i adael bws tîm Cymru gymryd ein lle.

tom,milgi,rhian a mary yn y gêm

Mae maes Taranaki yn faes cartrefol iawn, ‘roedd hogiau o Dalsarnau o’m blaen a chwpl croesawus iawn o Seland Newydd y tu ôl i ni a oedd yn hynod gyfeillgar ac yn mynnu rhannu Liquorice Allsorts efo ni. ‘Roedd Parry ac Eifion wedi hongian y ddraig Pwllheli dros ochr y stand ond daeth pedwar bôi yn gwisgo hetiau i eistedd y tu ôl iddi a gosod eu hetiau i guddio'r gair Pwllheli. Aethon nhw o’r fan erbyn yr ail hanner a gwelsom Pwllheli eto.

Wedi’r gêm arhosodd chwaraewyr Cymru ar y cae wrth i chwaraewyr Namibia cael medalau am gystadlu gan Bill Beaumont ac wedyn aethont o gwmpas y maes i ddiolch i’r dorf. Neidiodd Lloyd Williams dros y ffens i siarad efo pobl oedd yn ei adnabod yn y dorf.

Aethom o’r cae i gyfarfod Andrew'r dreifar yn y man ymgynnull ac wedyn gorfod cerdded yn reit bell at le ‘roedd y stiwardiaid ‘di gorfodi iddo barcio. Tipyn o strygl i Malcolm. ‘Doedd hi ddim yn ddiwrnod da i Andrew i ddweud y gwir, cafodd $36 o ddirwy am barcio a chrafodd ochr y bws ar gar wrth ein gollwng yn y gwesty. Mo Lodge yw hwn.

‘Roedd rhyw foi efo camera yn ffilmio ar y brif stryd. Rhyw foi o Fae Colwyn, wedi how ddysgu Cymraeg, eisiau ni 'neud cyfweliad ar gyfer rhaglen Rhodri Llewelyn. Perswadiodd Mary, Guto a mi. Gofyn y cwestiwn yn Saesneg a ninnau yn ateb yn Gymraeg. Peth anodd ei wneud, dwn im pam, am ein bod yn wylaidd ma raid.

hogia cymru'n ymlacio
Triathlon Tongariro