Rotorua - Yr ‘Offisial Risepsion’
Mae Andrew'r dreifar yn mynd fwy fel Colin Clwyddog pob diwrnod. Mae wedi ei fagu mewn o leiaf tri lle gwahanol ar hyd y ffordd yn barod. Mae’n eu rhaffu nhw neu mae’n fab i weinidog Wesla.
Neithiwr, yn y gwesty, yn Rotorua, oedd gwledd Maori wedi ei drefnu i ni fynd iddo. “You’ll have to pick a leader” meddai Andrew. Hawdd, Eifion. “They’ll throw a fern on the ground and you’ll have to pick it up.” Problem plygu ond fe wneith ei orau. “They might ask you to sing”. ‘Rown ni un pennill o Galon Lân iddynt a phawb i wisgo coch. Job done. “Whatever you do, don’t laugh. A Swiss fellow did and the Maori broke his jaw”. OK, dim chwerthin.
Cawsom ein tywys i’r neuadd fwyta ac yno yn barod oedd tua hanner cant o Koreans a phedwar Sais. Bwyd traddodiadol Maori oedd o ac ‘roedd yn neis iawn. ‘Roedd y pwdin yn fwy confensiynol. Cacan sponge neu ffrwythau. Peth rhyfedd yw diwylliant bwyta te. Gwelsom ryw Korean yn cario pum afal mawr coch yn ei bowlen bwdin, am eu rhannu efo bwrdd mae’n siŵr. Cadwodd Milgi lygaid ar y boi a gwelodd o yn ei bwyta un ar ôl llall. Testun camdreuliad ta be.
Dechreuodd yr adloniant gan barti Maori, a da iawn oeddynt hefyd. Ymhen sbel daeth moment fawr Eifion. Gofynnodd yr arweinydd am un cynrychiolydd o bob gwlad. Cododd rhyw ddynes fach Korean, oedd yn eistedd reit yn y tu blaen, Eifion ac un o’r Saeson. Dyma’r Maori yn dechrau canu a rhoi'r meic i’r Korean a dyma hi’n morio canu ar Koreans yn chwibanu a bonllefain. Aeth y lliw o wyneb Eifion o wybod beth oedd i ddigwydd nesaf ac aeth y gweddill ohonom yn sâl yn chwerthin o wybod yr un peth.
Rhoddwyd y meic i Eifion a dechreuodd y Maori ganu Delilah. Dim ond dau air o Delilah mae Eifion yn ei wybod. 'My' ydi un a 'Delilah' y llall. Toedda ni fawr o help iddo fo achos roeddem yn rhy sâl yn chwerthin. ‘Dwi ddim yn meddwl bod y Koreans yma yn meddwl na Chymru yw gwlad y gân, dim ots pa mor fawr yw Siân James yno.
Bore drannoeth aeth pymtheg ohonom i Te Puia, canolfan i ddathlu crefftau'r Maori a gweld mwy o fwd yn berwi. ‘Roedd coes Malcolm braidd yn boenus felly arhosodd yn y gwesty. Aeth Mollie am dro ar gefn beic ac Eifion i gael gwersi canu.
Cawsom ein tywys o gwmpas gan Faori hynod o glęn i weld y crefftau ac i wylio’r geiser yn chwythu. Gwrthod perfformio wnaeth y geiser mawr. Am fod Eifion ddim efo ni mae’n siŵr.
Wedi cinio aeth Andrew â ni i ganol Rotorua, ‘roedd am gymryd 24 awr heb yrru, yn gynnar, er mwyn gallu ein gyrru yn Hamilton.
Mae Rotorua yn ddinas braf gyda strydoedd llydan ar lan Llyn mawr, ychydig bach fath a Llanberis. Na ddim byd fath a Llanberis. Cawsom ddwy awr braf o gerdded o amgylch y lle.
Gyda’r nos aethom i lawr i ganol y ddinas am fwyd ac i wylio gęm De Affrica a Samoa. Nigel a Wayne Barnes odani hi'n ofnadwy ar deledu Seland Newydd. Pobl yn tecstio i mewn ac yn dymuno pob math o bethau câs iddynt.
Gwelsom ryw hogyn o Gastell-nedd a oedd yn byw yn Sydney a dau frawd o Fanceinion. Un yn byw yn Auckland a’r llall wedi dod ato am dair wythnos efo’i fęts. Wedi clywed ni’n siarad Cymraeg a dod draw am sgwrs. Carafan ar fferm Pant Gwyn, Sarn Bach gan y teulu.
Tydi Rotorua ddim yn le am dacsi. Bűm yn disgwyl hanner awr ar y ffordd i lawr i’r ddinas a chael a chael oedd hi gael bwyd a dal dechrau’r gęm. ‘Roedd hi’n saith gwaeth ar y ffordd nôl a bu Tony yn ffruo efo nhw ar y ffôn. “What do you mean, there’ll be a taxi in two minutes, you said that half an hour ago” a phethau felly. ‘Roedd yn bygwth reportio nhw i bob math o awdurdod, ychydig bach fel cyhoedd Seland Newydd a Nigel bach ni.