Dyma'r hanes diweddaraf.
Mae pawb wedi cyrraedd Auckland yn saff.
Diolch i Tom Roberts.
Auckland, Seland Newydd
Dydd Iau
9.25pm Nos Fercher oedd yr awyren yn gadael Singapore am Brisbane ac wedi newid yno fe laniodd yr awyren yn Auckland rhyw ychydig wedi dau bnawn Iau. Mae Auckland yn ddinas fawr (1.4 miliwn) ac mae un o bob tri o bobl Seland Newydd yn byw yno. Mae’r strydoedd wedi ei gosod ar ffurf grid ac mae’r brif stryd Queen, stryd lydan braf, yn rhedeg i lawr allt yn hollol syth am tua 2 filltir i’r porthladd. ‘Roedd y gwesty tua thri chwarter ffordd i fyny Queen wedi i ni gyrraedd fe welsom Martin a Delyth oedd wedi bod yn Seland Newydd am bythefnos yn barod, wedi gwylio dwy gêm Cymru a theithio’n eang.
I lawr a ni ar hyd Queen i’r porthladd ac i’r Fanzone, lle gyda sgriniau mawr a stondinau cwrw i wylio De Affrica a Namibia. Oedd yna dipyn o bobl yno yn gwylio ond oedd dim problem mynd i’r bar. Rhai yn cefnogi De Affrica a’r gweddill, pobl o bob gwlad arall, yn gweiddi am Namibia.
Awyrgylch braf iawn yno i ddweud y gwir. Ar y ffordd yn ôl fe ddaeth Milgi ar draws Ffion Wyn Groeslon oedd yno efo’i ffrind, Sara. Oedd y ddwy ddim am fynd i New Plymouth i weld Cymru ond am hedfan i Fiji am wythnos ac am ein cyfarfod eto yn Hamilton.
Dydd GwenerRoedd Rhian wedi trefnu efo Elfed i gyfarfod yn lobi'r gwesty er mwyn mynd am drip. Erbyn i ni gyrraedd oedd dim golwg o Elfed, wedi mynd mae’n siŵr, ac aeth y ddau ohonom i lawr i’r porthladd i ddal y ferri i Devonport. Cefais text gan Milgi i ofyn lle oedan ac fel oedd y ferry ar fin cychwyn death Milgi, Mary, Elfed a Big Tone ar ei bwrdd. Felly aeth 6 ohonom i Devonport.
‘Roedd Devonport yn le braf iawn. /rhyw deimlad ei fod ym Mhenmon neu Biwmaris yn edrych ar draws y Fenai, a'r tai yn debyg i’r tai crand sydd yn y pen yna o Sir Fôn.
Aethon i’r Skytower wedyn. Mae pobl y lle ma’ wedi gwirioni efo bungee jumping ac oedd na rai yn ddigon gwirion i daflu eu hunan o ben y Skytower. Ddim y fi wrth gwrs, heb bacio digon o dronsys. Mynd yn ôl i’r gwesty a ffeindio bod ‘stafell Elfed drws nesaf i ni. Doh!
‘Roedd cyfarfod yn ein hystafell wedyn ond oedd Berta, Parry, Guto a Catherine yn methu bod yno. Oedd cefnder Berta, Peter Belcher, wedi dod i’w nôl ac wedi rhoi guided tour go iawn o’r ddinas, hyd yn oed wedi mynd i dŷ Graham Henry, ond oedd o wedi picio allan i wneud ‘wbath. Wedyn i dŷ Peter am bryd o fwyd cyn dod yn ôl i’r gwesty yn hwyr. Digwydd bod, oedd y cyfarfod yn dal i fynd yn ei flaen, lot o bethau i’w trafod.
Dydd SadwrnY sw môr oedd hi yn y bore, (mae’r lle 'ma yn debycach i Sir Fôn bob dydd) ac wedyn i’r marina am fwyd. Yr awyrgylch cyn gêm yn drydanol. Y Ffrancwyr wedi gwneud ymdrech arbennig, musketeers, milwyr Napolean, foreign legion a berets ym mhob man. Tra bod Darth Vader yn cefnogi Seland Newydd. Criw o genod tal wedi eu gwisgo fel French Maids yn mynd i ganol y groesffordd bob tro oedd y traffic yn stopio i ddawnsio.
Mollie ac Eifion wedi cyrraedd y gwesty erbyn i ni fynd yn ôl yno. Rhai o’r hogia yn cychwyn yn gynnar am y Fanzone i gael lle ond oedd hi fel ffair yno, y llefydd dan do yn orlawn. Sefyll allan i wylio rhywfaint o gêm Lloegr a Rwmania cyn penderfynu mynd yn ôl i fyny Queen i ffeindio cwt cwrw. Rhyw Americanes yn trio gwerthu ticed gêm i mi. $460 (£230) ond oedd hi’n fodlon cymryd $300 a llai hefyd, mae’n siŵr, os fysa gen i ddigon ar ddiwedd y gêm.
Daeth Peter i’r gwesty i ffarwelio fore Sul am 9. Cawsom sgwrs hir ag o'r herwydd wnaeth y bws ddim cyrraedd tan chwarter wedi deg. Andrew'r dreifar yn meddwl na hanner awr wedi naw oedd o i fod yno, ac wedi anghofio troi’r awr. Idiot! Bring back Lodge.