Dyma'r ail berl. Mae'r fintai'n nesáu at Seland Newydd.
Diolch eto i Tom Roberts.

Blodyn Cachu Ci yn Singapore


blodyn cachu ci
Blodyn Cachu Ci

“Sut dempar?” oedd cyfarchiad a gefais ar gerdyn post gan George Morton pan adawodd yr ysgol i fynd i’r môr tua 1970. Ar du blaen y cerdyn oedd llun o’r Raffles Hotel, rhywle o’n i erioed wedi clywed amdano gynt.

Tua’r un adeg pan o’n i yn gweithio yn Butlins dwi’n cofio Mrs Williams, ein bos, a mam John Eric (yr Urdd gynt) yn dweud hanes Capten Jôs (‘dwi’n siŵr na Jôs oedd o) Mathan House, Pwllheli. Yr oedd o a’i wraig wedi cael eu dal yn Singapore tua ‘Dolig 1941 pan gwympodd y lle i’r Siapaniaid. Cafodd y ddau eu carcharu am dair blynedd a hanner, gyda’r holl erchyllterau oedd i ganlyn hynny, ond fe oroesodd y ddau a chychwyn am adref ond i’w wraig farw ar y llong ar y ffordd. Stori drist iawn.

‘Roedd yna reswm i Singapore i mi ers hynny ac yr o’n i'n edrych ymlaen at gael gweld y lle ond ddim via Hong Kong.

Wedi cyrraedd Singapore, 7 awr yn hwyrach na'r lleill fe wnaeth y tri ohonom Guto, Rhian a minnau gyrraedd y gwesty tua un o’r gloch fore Mawrth. ‘Roedd y rhan fwyaf o’r criw wedi aros ar eu traed i’n croesawu ag roedd pawb yn falch o weld ei gilydd.

Bore wedyn oedd trip o amgylch Singapore wedi ei drefnu a chan nad oedd byth hanes o’n cesys cafodd Rhian fenthyg dillad gan Catherine Cae Mieri a Gwen Pulrose a minnau gan Parry bach. Roedd gan Guto ddillad yn y cês oedd wedi cyrraedd efo Catherine.

cae mieri
Cae Mieri lle bu mawredd

Mae adeiladau newydd Singapore yn anferthol o dal, i fyny at 280m ac mae peth uffar ohonynt. Banciau am y gorau i fod yn bwysig. Y rhan fwyaf wedi eu gorchuddio efo gwydr. Tipyn o gontract glanhau'r pethau. Oedd y trip ddim yn mynd a ni i’r banciau yma chwaith. Na, adeiladau unllawr a welsom ni a oedd yn olrhain hanes aml diwylliannol y lle. Rhannau Indiaidd a Cheiniaidd y ddinas, difyr iawn, gwahanol i’w gilydd ond eto’n debyg iawn yn y ffaith eu bod yn ardaloedd tlawd. Chawsom ni ddim mynd i’r adeiladau colonial Prydeinig chwaith ond oedd stamp yr ymerodraeth yn drwm ar y lle.

Cawsom hefyd fynd i ryw erddi botaneg ble ‘roedd toreth o wahanol fathau o ‘orchids’ yn tyfu. Blodau cachu ci, yn Gymraeg, yn ôl Elfed Gruffydd a Parry bach. Welais i ddim un ci tra o’n i yno a phetai ci yn cachu yno ‘roedd na homar o ffein i gael. ‘Roedd ffein i gael am boeri ar lawr.

Y peth rhyfedda i mi oedd bod Singapore yn lle mor di-bry. Welais i ddim malwen, pry cop na morgrugyn. Tra'r oeddem yn y gerddi gofynnodd Parry bach wrth ein tywysydd, cesan o hogan a oedd yn llawn o jocs, “Why no flies”. Da ydi Parry yn ei Saesneg. “Plenty flies” meddai a dyma gythral o chwilen fawr yn fflio dros ein pennau yn union fel bod rhywun wedi ei gollwng o focs matsys i brofi pwynt. Ar wahân i un glöyn byw melyn llachar hwnna oedd yr unig infertebrat i mi weld yno.

Dydd Mawrth hefyd, oedd, yn digwydd bod, pen-blwydd ‘Berta (yr official felly) ac aeth pob un ohonom i’r Raffles Hotel i gael Singapore Gin Sling. Tydi fanno ddim yr un lle ac ‘roedd o pan aeth George a chriw Blue Funnel yno yn 1970. Ddim yn union, yn frwgaij lle bu byddigions ond wedi cael ei newid yn niwedd y nawdegau ac wedi colli ei urddas rhywsut. Oedd rhaid i ni hefyd dalu trwy’n trwynau (£15) am y sling. Ond dyna fo tydi rhywun ddim yn Singapore yn aml. Aethom i Chinatown am bryd o fwyd i goroni’r dathliad pen-blwydd.

Mae’r Grand Prix yn Singapore Nos Sul ac oedd y lle yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer y râs, stands, barriers ac ati. Mae’n rhaid ei fod yn dod a digonedd o arian i mewn i’r ddinas i gyfiawnhau'r holl drafferth i’r traffig dyddiol.

curly
Curly, Mo a Larry

Clywsom hefyd Nos Fawrth bod Rhian, Pwllheli Travel, wedi medru dod o hyd i’r cesys yn llechu yn rhyw gornol yn Heathrow a thrwy ei hymdrechion hi wedi medru sicrhau eu bod yn cyrraedd Singapore cyn i ni gychwyn am Brisbane. Mae'r cesys wedi cael enwau hefyd, Curly, Mo a Larry ar ôl y Three Stoogies a oedd yn dipyn o gesys eu hunain.

Daeth y cesys i’r fei tua 11.30 fore Mercher, diolch i Rhian, Pwllheli Travel, mewn da bryd i ddod gyda ni i Brisbane ac mae nhw’n swatio’n glud oddi tanof wrth i mi ysgrifennu hwn.




 
Mwy o hanes yma eto!!