Taupo


'Roedd yn bwrw'n drwm wrth i ni adael Hamilton ar y daith i Taupo ac felly bu hi fwy neu lai gydol y daith. Fe stopiodd Andrew am baned yn Taupo ond 'roedd hi'n bwrw gormod i ni gymryd llawer i mewn mond bws, paned, bws.

'Roedd pedwar ohonom, Martin, Dennis, Tony a Guto, wedi trefnu i fynd i 'sgota am frithyll ar Lyn Taupo tra bod y gweddill am fynd ar yr Huka Jet. Cychod sy’n mynd yn uffernol o gyflym yw'r rhain ond 'due to the inclement weather' 'roedd hi'n 'no go'. Felly aethom i'r gwesty i stwna. Ffeindiodd Parry, Milgi a mi gwt cwrw go handi i fynd am lasiad.

sgotwrs

Daeth y 'sgotwrs yn ôl wedi dal pum brithyll mawr, naw go iawn ond oedd pedwar rhy fach. (deunaw modfedd yn rhy fach yma). Tony wedi dal tri.

Chewch chi ddim gwerthu brithyll yn Seland Newydd, yn ôl Andrew, felly aeth â nhw i ryw fwyty i'w cogino i ni eu cael fel cwrs cyntaf ein pryd, a blas ardderchog oedd arnynt hefyd. Diolch yn fawr i'r 'sgotwrs.

Bore Mawrth aeth Andrew a ni i weld y pwerdy geothermal a hefyd yr Huka Falls cyn mynd a ni i gael cynnig arall ar yr Huka Jet. Y tro yma er ei bod yn bwrw rhyw ychydig cawsom fynd arni. Y broblem efo glaw yw, ei fod yn llosgi eich llygada am eich bod yn mynd mor gyflym. A ma' nhw yn dda hefyd, fath a 'sgwarnog yn mynd o flaen milgi (un go iawn ddim John). Mynd ar gythral o wib, stopio'n stond, osgoi pethau o fodfeddi neu droi yn yr unfan a mynd y ffordd arall. Gwych. 'Roedd y cwch yn hawlio’r afon go iawn a’r chwiaid yn gorfod sgrialu o'i ffordd. 'Roedd pawb wedi mwynhau yr Huka Jet.

huka jet

Fe gododd y tywydd yn sydyn iawn ac 'roedd pawb yn gorfod tynnu dillad am ei fod wedi mynd yn eithriadol o gynnes ac ron i'n difaru fy mod wedi gadael y sbectol haul yn y gwesty. 'Roedd Huw Cae Mieri wedi fy rhybuddio i ddisgwyl pedwar tymor mewn diwrnod a rŵan dwi’n gwybod be oedd o'n feddwl.

Ar ôl cinio aeth wyth ohonom i wneud “Whitewater rafting” Dennis, Sera, Martin, Delyth, Tony, Parry, Guto a Fi. 'Roedd hwn yn hwyl go iawn hefyd a'r afon yn lle ofnadwy o hardd. Y broblem oedd bod Andrew wedi anghofio dweud wrthym ddod a dillad nofio, rhy brysur yn dweud ei hanes fel 'big game hunter', ac felly oedd rhaid i ni ddod adref yn commando. 'Roedd y gweddill wedi bod am dro o amgylch Taupo yn siopa ac ati.

rafft

'Roedd y Chelmswood Motel ar lan Llyn Taupo mewn lle hynod o braf ac 'roedd rhywun yn sylwi ar yr olygfa yn well ar ddiwrnod braf. Eisteddai pawb ar y lawnt yng nghefnau'r ystafelloedd lle ‘roedd dwy chwaden hynod o ddigywilydd yn chwilio am fwyd. 'Roedd pwll nofio awyr agored yno hefyd yn defnyddio dŵr mwy neu lai yn syth o'r ddaear. 'Roedd yn rhaid ei oeri gyntaf. Cawsom gyfarfod yn ystafell Martin a Delyth.

chwaden

Wedi'r cyfarfod aeth criw ohonom i Taupo am rywbeth i fwyta ac i weld ychydig bach mwy ar y lle.

Mae Milgi wedi cael e-bost gan Sera Llywelyn ac mae hi am 'drop tools' yn Christchurch ac am ddod i Wellington i'n gweld. Edrych ymlaen yn ofnadwy.

Napier a Masterton