Mae na nifer o Bwllheli wedi mynd i Seland Newydd i weld Cwpan y Byd. Dyma i chi 'chydig o hanes y daith hyn yma.
Diolch i Tom Roberts am y cynnwys.

Trafferth mewn Terminal


Your ticket’s no good but you can still fly” meddai’r chapun tu ôl i gownter BA ym Manceinion, wrth i Guto Wyn Cae Mieri geisio rhoi ei fagiau i mewn, a’i yrru yn syth ar draws y lle at ryw flondan mewn ciwbicl. Be ydi'r lol ‘ma meddyliais fel oedd Rhian a mi yn cael yr un neges a’n gyrru i’r un lle. Sorted meddai’r flondan a’n gyrru'n ôl at y chapun BA. Hwnnw yn rhoi boarding pass i Lundain i ni a deud wrthym fynd i gownter Qantas yn Heathrow i gael y boarding pass i Singapore. “Diolch yn fawr” medda ni ac i ffwrdd a ni i archwilio’r bagiau bach.

“You’ve got to have them in a self seal bag” meddai Pwysig, wrth Rhian, yn y lle bagiau. “It is a bag and I sealed it myself” oedd ateb Rhian, ond doedd dim troi ar y pwysig ac ‘roedd gorfod mynd ar draws gwlad a rhoi £1 mewn peiriant am ddau fag plastig maint hances boced. Mae Carwyn Jones ‘rhen greadur o dani’n arw am feddwl codi 5c yn un am rai lot mwy.

I ffwrdd a ni i’r lolfa, peint bach, Malcolm a Gwen yn edrych ar Man Utd ac yna awe am Lundain. Cyrraedd yn saff ac i’r ddesg Qantas i chwilio am y boarding card.

guto
Guto yn trio cael sens gan Miss Qantas

Miss Qantas yn fanno yn methu ein ffeindio ar y system, trio un neu ddau o bethau a’n gyrru i’r giât i fynd ar yr awyren. Cyrraedd fanno, a, “pwy ‘da chi felly” oedd hi. “Dim boarding card dim mynd ar yr awyren”. “Ond mae gennym seti medda ni”. “Nac oes”, oedd yr ateb, “ydach wedi cyrraedd yn rhy hwyr, llai nac awr cyn take off. Bai British Airways oedd o, cerwch i’w desg nhw i gwyno”. Catherine Cae Mieri yn gorfod mynd trwy’r giât a’n gadael fath a ‘sa ni’n mynd a’r drên i Belsen.

OK. Awn ni at BA. “Gwranda” medda’r boi, “fel hyn mae’n gweithio. Os oes na awyren yn cario 500, rydan yn gwerthu 510 o dicedi, felly os oes deg yn canslo mae pawb yn hapus. Ma' pawb yn i ‘neud o”. “Hold on Dafydd John” medda ni “be sy’n digwydd os oes na neb yn canslo”.

“‘Dach chi ddim yn mynd ar yr awyren, chi oedd y diwethaf i checkio i mewn ac roeddech yn rhy hwyr, llai nac awr cyn iddi godi. A pheth arall, sarnon ni ddim ffadan o iawndal i chi, edrychwch ar y print mân yn fama” meddai a stwffio rhyw gardyn a sgwennu mân ar y diawl arno fo dan fy nhrwyn. “Fedra’i moi ddarllen,” meddwn i, “sgen i ddim ‘electron microsgop’”

“Beth bynnag”, medda’r boi yn cychwyn eto, “ddim bai ni ydi o ond bai Qantas. Tydi o ddim byd i wneud efo ni”. Golchi eu dwylo ohona ni, BA a Qantas. Ew does rhyfedd na peilot oedd Ponteas. Y cachwrs ddiawl.

Yn ôl a ni at Miss Qantas, a dyma Guto yn rhoi'r edrychiad ymbilgar yna arni, honno mae’n ei roi pan fydd Catherine yn gofyn am oriad ei waled. A dyma fflach o dosturi yn dod i’w llygaid ac mae’n codi’r ffôn a dweud ein bod wedi cyrraedd ei desg mewn pryd. Toedd hi ddim yn dweud celwydd; a'i bod hi wedi methu ein bwcio i mewn am fod y cyfrifiadur wedi methu. Mi oedd na awyren i Singapore am 12.30 y bore wedyn, “ne” meddai ar ôl stydio’n bellach cewch fynd i Hong Kong ymhen yr awr a chewch fynd o fano i Singapore wedi dwy awr o ddisgwyl. “Beth am y cesys” medda ni. “Fydd y cesys yn iawn”. Cerwch i’r giât a daw Susan a’r tocynnau i chi.

guato a rhian
Rhian a Guto yn cael tendars yn Hong Kong

Wedi disgwyl yn y giât am hanner awr, death Susan efo’r ticedi, a roeddem i fynd i’r Lolfa Fusnes yn Hong Kong i ddisgwyl, ‘free of charge’ ac “Bydd y cesys yn iawn”. Ar yr awyren y tri ohonom yn eistedd ar wahân, Guto efo rhyw foi o Melbourne, y fi, efo rhyw Horticulturalist o Sydney, dyn difyr ar y diawl a Rhian efo rhyw gwpwl nath ddim taro gair efo hi. Tipyn o gamp mewn taith o 11 awr.

Cawsom ein edrych ar ein holau yn dda iawn yn Hong Kong, chwarae teg, ond fel ‘dwi’n sgwennu hwn ar y daith o Hong Kong i Singapore does na ddim son am y cesys. ‘Sgwn beth fydd eu hanes?

Erbyn cyrraedd Singapore nid oedd y cesys wedi dod i’r fei. Roedd ces ‘Berta ar goll hefyd er ei bod yn obeithiol iddo gyrraedd y Peninsula Excellsior erbyn bore Dydd Mawrth. Da ‘dy nhw te.



Mwy o hanes yma!!