Wellington


Aeth Andrew â ni am drip o amgylch Wellington cyn mynd a ni i’r gwesty. Cawsom fynd i ben Mount Victoria i edrych tros y ddinas ac aeth â ni i weld y senedd a’r “the only Welsh pub in New Zealand”. Handi, roedda ni eisiau mynd yno yn bellach ymlaen, Siân, merch Naomi a Jac Em wedi bod yn gweithio yno, (perthyn i Rhian, Parry a Gwen) ac wedi dweud ein bod ar y ffordd.

‘Roedd y gwesty yn Johnsonville rhyw 20 munud ar y tręn o ganol y ddinas. Dalion dręn 7.30pm ac yna cerdded am tua hanner awr at y dafarn, braidd yn bell ond cawsom weld y lle. Hen doiled rhwng dwy stryd yw’r Dragon Bar. Cyfres o ystafelloedd cul, y drws i mewn i’r bar; yr ystafell fwyaf, dwy ystafell ar y dde, y bar yn y gornel chwith gydag ystafell arall wrth ei ochr a tent fach yn yr ardd y tu ôl iddi.

dynylle
Parry a dyn y lle
 

‘Roedd y lle dan ei sang. Gwasgais i mewn i fynd at y bar a gwelais Iolo. Cefais sgwrs fach efo fo a dywedodd bod Ffion yn un o’r ystafelloedd ar y dde. Wrth stwffio tuag at y bar gwelais Parry bach. ‘Roedd o a Milgi wedi mynd i mewn trwy’r ardd ac wedi cael peint o stondin y fanno. Felly i’r dent a ni. Am fod hwn yn dafarn Gymraeg archebais beint yn null Dic Dybl Dutch. “Peint of cwrw melyn plîs”. Dim problem.

Es trwodd wedyn i chwilio am Ffion. Gwelais Ifan ar y ffordd a dywedodd bod Tudur Annwyl wedi mynd adref. ‘Roedd Iolo ar y ffordd allan i gael cyfweliad efo Rhodri Llywelyn. ‘Dywedodd Ffion ei hanes yn y bws i Wellington, ‘di torri i lawr yn y mynyddoedd ac yn styc yno am bedair awr. Wedi ffonio Iolo i ddweud ei chwyn a hwnnw, yn Taupo, wedi heirio beic mynydd, tsaun wedi torri ac yntau yng nghanol powlio’r beic adref pan gafodd yr alwad.

y ddwy rhian
Y Ddwy Rhian

Tra o’n i yn siarad efo Ffion daeth Rhian, superfan Jonathan i mewn. Ffion yn nabod hi’n iawn, galw hi’n Eirlys. Perswadiais Ffion i wneud cyfweliad, fe wnaeth, galw fi’n jibbar am wrthod. Es yn ôl i ddweud wrth y gweddill bod Rhian yna ac aeth pawb yno i’w gweld. Gwrthod cyfweliad, efo Rhian, wnaeth pawb. Cafodd Milgi a Mary gyfweliad gan y dyn camera o Fae Colwyn ond yn Saesneg y tro yma.

Daeth un o hogia' Bala trosodd at Rhian a buont yn siarad am sbel. ‘Roedd o’n nabod teulu Rhian ac yn canu efo côr Llangwm dan arweiniad ffrind Rhian, Bethan Smallwood.

‘Roedd Guto a Parry yn siarad efo rhyw foi a chyflwynodd fi iddo. “O le ti’n dod?” medda fi. “O Drawsfynydd”. “Yn ymyl Gellilydan” meddwn i, yn cofio stori Iwan Griffith. “Iesu, ti’n nabod Gellilydan. O fanno dwi’n dod ac mae mam yn dal i fyw yno”. “Ti’n nabod y MacQuillan?” medda Parry bach. “Nabod. Perthyn”, A dyna ni, cyfarfod perthynas i Mags gwraig Sbas.

Daeth y perchennog ar ei rownd i hel gwydrau a buom ni’n ei holi am Siân, atgofion melys iawn ohoni medda fo.

elfed a terry bryer
Elfed a Terry Bryer

‘Roedd criw o Ddinbych yn ystafell yma hefyd. Gofynnodd Elfed wrth un ohonynt os oedd yn nabod Ces Banc. Dywedodd ei fod o ddim ond buasai yn gofyn wrth ei fęt Terry Bryer. Canodd yr enw gloch efo Elfed ‘roedd y ddau heb gyfarfod ers 1967.

Gweiddodd Milgi arnaf i fynd i’r bar, yno ‘roedd yr hogyn o Fraser Tech yn canu’r gân “Take the cup home” (Sloop John B). Take ydi o ddim bring, fath a ddywedais yn Hamilton. ‘Roedd criw teledu yn ei ffilmio trwy’r ffenest. Cefais fy nghyflwyno iddo, Mark o Gaerdydd. ‘Roedd Ffion yn ei nabod. Mae Ffion yn nabod pawb.

Dalion dręn hanner nos yn nol i’r gwesty. Sera Llywelyn a’r gęm yfory. Bring it on.

 

Ian Studt a Llinos yn priodi heddiw, wedi gyrru fideo iddynt i’w perswadio i ddod i Seland Newydd ar eu mis męl.

Os ewch i Seland Newydd
Am wyliau yn eich tro,
Cewch yno lwyr ryfeddu
Ar brydferthwch glas y fro.
Cewch fynd ‘Whitewater Rafting,’
A mwynhau y wlad yn llawn.
Neu aros yn eich gwely
A chael ‘Bungee Jump’ go iawn.

 

Mark yn canu yn y Fraser Tech Rugby Club Hamilton)

 
22-10