English


Croeso i'r Adran Rygbi

Chwaraewyd gêm gyntaf Clwb Rygbi Pwllheli ym mis Medi 1972, ond roedd pethau wedi cychwyn yn yr Ysgol Ramadeg nifer o flynyddoedd cyn hynny. Datblygwyd y syniad o ffurfio Clwb Rygbi Pwllheli gan y diweddar Len Humphreys yn dilyn gêm rhwng cyn disgyblion Ysgol Ramadeg Pwllheli a Chlwb Rygbi Harlech yn ôl yn 1971. Os oedd y clwb am ddatblygu roedd rhaid chwilio am gartref parhaol. Dyma pryd y cafwyd y syniad o ymuno â Chlwb Criced Pwllheli yn yr ymgyrch o sefydlu Clwb Chwaraeon ym Mhwllheli. Llwyddwyd i gael gafael ar dir diolch yn bennaf i'r diweddar Anthony Jones, Penmaen, a datblygwyd Parc Bodegroes ar gyrion Efailnewydd ar ddechrau'r saithdegau fel cartref parhaol nid yn unig i rygbi a chriced, ond hefyd i hoci. Mewn lleoliad godidog mae Clwb Chwaraeon Pwllheli'n mynd o nerth i nerth ac yn cynnig amodau chwarae gyda'r gorau drwy Wynedd a thu hwnt.

Mae Wil Bing wedi bod yn ddiwyd yn casglu stwff ar hyd y blynyddoedd. Mae'r diolch yn fawr iddo fo am roi benthyg yr hyn oedd ganddo i'w defnyddio ar y wefan. Derbyniwyd deunydd gan unigolion eraill hefyd ac mae nhw'n cael eu cydnabod yn y man priodol oddi mewn y cynnwys. Mae peth hanes y blynyddoedd cynnar wedi'u cynnwys yn barod, ond mae llawer o hanes sydd dal ar goll.

Os oes ganddo’ch chi unrhyw beth fyddai o ddiddordeb pam na wnewch gysylltu fel y gallwn ei gynnwys ar y wefan. Gallwch wneud hynny wrth fynd i'r linc 'Cyswllt' ar ben y dudalen hon. Mae croeso hefyd i chi gyfrannu drwy adael sylw yn y llyfr gwesteion. Mae'r linc yma hefyd i'w gweld o dan y pennawd 'Sylwadau' ar frig y dudalen.

Cynnwys Newydd

Gemau Nesaf


Sadwrn 21ain Ionawr 2012
Bala 6 Nant Conwy 41
Caernarfon 20 Bro 18
Llandudno 3 Pwllheli 56
Llangefni 20 Wyddgrug 14
Rhuthun 10 Bethesda 15
Sadwrn 14eg Ionawr 2012
Bethesda 26 Llandudno 15
Llangefni 7 Caernarfon 49
Wyddgrug 20 Rhuthun 15
Nant 13 Bro 15
Pwllheli 10 Bala 11
Sadwrn 7fed Ionawr 2012
Bala G Bethesda G
Bro 0 Pwllheli 5
Caernarfon 13 Nant 12
Llandudno 26 Wyddgrug 13
Rhuthun 27 Llangefni 15
 

Lluniau Diweddar


bala 14-01-2012
Bala 14.01.12
nant 17-12-2011
Nant 17.12.11
llangefni
Llangefni 12.11.11
llandudno
Llandudno 15.10.11